Hillary Clinton Llun: O wefan ei hymgyrch
Mae’n debygol bellach mai Hillary Clinton fydd y ddynes gyntaf i arwain un o brif bleidiau gwleidyddol yr UDA yn y ras i’r Tŷ Gwyn.

Daw hyn yn dilyn cyfrifiad gan yr Associated Press (AP) sy’n awgrymu ei bod wedi cyrraedd y targed o 2,383 o gynrychiolwyr oedd ei angen i gael ei dewis fel ymgeisydd y Democratiaid.

Daeth ei buddugoliaeth yng nghanlyniadau Puerto Rico neithiwr.

Ond, yn ôl ei gwrthwynebydd Bernie Sanders, seneddwr Vermont, dyw’r fuddugoliaeth ddim wedi’i selio eto am y bydd rhai o’r cynrychiolwyr ddim yn taro eu pleidlais tan gynhadledd y blaid ym mis Gorffennaf.