Mae’r prinder meddygon teulu yng ngogledd Cymru yn “argyfwng” yn ôl un o gynghorwyr tref Bae Colwyn, yn dilyn cyfarfod rhwng y cynghorwyr a meddygon lleol nos Lun.
Daeth meddygon o ddwy feddygfa – Cadwgan a Bae Penrhyn – i’r cyfarfod neithiwr, i drafod y sefyllfa leol ar ôl i sawl feddygfa yn yr ardal gyhoeddi y byddan nhw’n cau eu drysau.
Dywedodd y Cynghorydd John Davies wrth golwg360, fod y meddygon yn teimlo bod y pwysau gwaith arnyn nhw’n ormod a bod llawer o fiwrocratiaeth, gan arwain at bobol yn gadael eu swyddi.
“Roedd y meddygon yn teimlo ei bod hi’n argyfwng erbyn hyn, y cam nesaf yw ewyllys gwleidyddol gan y Llywodraeth ganolog,” meddai.
Roedd y meddygon hefyd yn teimlo, meddai, bod prinder meddygon teulu ledled y wlad, ond yn enwedig yng ngogledd Cymru.
Mae meddygfeydd bellach wedi gorfod cau yng Nghonwy, Prestatyn, Rhuddlan, Wrecsam, Glan Conwy a Blaenau Ffestiniog oherwydd y diffyg recriwtio sydd wedi bod.
Trafod â gwleidyddion a’r Bwrdd
Doedd dim gwahoddiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r cyfarfod y tro hwn, gan fod y cynghorwyr yn teimlo eu bod nhw am glywed gan y meddygon teulu yn gyntaf.
Mae bwriad i gynnal cyfarfod â’r Bwrdd o fewn yr wythnosau nesaf, yn ogystal â’r Aelod Seneddol lleol, David Jones, a’r Aelod Cynulliad, Darren Millar – yn ogystal â rhai rhanbarthol y Gogledd, Llŷr Gruffydd, Michelle Brown, Nathan Gill a Mark Isherwood.
Mewn ymateb i’r cyfarfod, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei fod yn “darparu arweiniad a chefnogaeth i bob meddygfa ar draws Gogledd Cymru.”
“Lle mae pryderon penodol yn cael eu codi, mae’r rhain yn cael eu hystyried gyda’r meddygfeydd a chytunir ar gamau gweithredu,” meddai.
“Mae hyn wedi cynnwys darparu cefnogaeth drwy wasanaethau ychwanegol a fydd yn helpu i leddfu pwysau a brofir a chefnogaeth i wneud gwelliannau i adeiladau.”
Llywodraeth Cymru: cwtogi biwrocratiaeth
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai 1,997 o feddygon teulu sydd yng Nghymru ar hyn o bryd a bod hyn yn gynnydd o 8% ers 2005, ond ei bod yn cydnabod yr “her” o ran recriwtio sydd “mewn rhai rhannau o Gymru.”
Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gontract dyw flynedd hefyd, fydd yn cwtogi biwrocratiaeth sydd ynghlwm â llwyth gwaith meddygon teulu, gan geisio “cadw meddygon teulu profiadol a chefnogi’r rhai sy’n dymuno dychwelyd i’r swydd.”
“Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol o safon uchel yn cael eu darparu i gleifion yn ei ardal,” meddai llefarydd.
“Mae’r bwrdd iechyd yn cydweithio’n agos gyda meddygfeydd a phobl leol i greu modelau cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau pan fydd practis meddygon teulu yn dewis dod â’i gontract i ben.”
“Rydym yn gweithio gyda’r BMA a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu i geisio goresgyn unrhyw beth a allai fod yn rhwystr i recriwtio.”