Sepp Blatter
Mae’r corff sy’n rheoli pêl-droed rhyngwladol, FIFA, wedi dweud bod Sepp Blatter a dau gyn-swyddog arall, wedi rhoi codiadau cyflog a thaliadau bonws gwerth £55 miliwn iddyn nhw eu hunain.

Yn ôl FIFA mae’n edrych yn debyg fod y taliadau yn groes i gyfraith Y Swistir, ble mae pencadlys y corff.

Y tri dan sylw yw’r cyn-Lywydd Sepp Blatter, y cyn-ysgrifennydd Jerome Valcke a Marcus Kattner.

Yn ôl FIFA fe gafodd y swm anferthol o arian ei dalu dros gyfnod o bum mlynedd.

Mae Blatter a Valcke yn gwadu gwneud dim o’i le, ond maen nhw eisoes eu gwahardd gan bwyllgor moesau FIFA.

Daw’r diweddaraf gwta dair wythnos ers i Lywydd FIFA, Gianni Infanito, ddatgan “mae’r creisus drosodd”.