Adam Jones ag un o'r peli sydd wedi bod ar faes Eisteddfod yr Urdd
Cafodd pêl-droedwyr Cymru eu cyflwyno â pheli wedi’u harwyddo â negeseuon o ewyllys da gan gefnogwyr o bob cwr o’r wlad yr wythnos hon, mewn swper arbennig i ffarwelio â’r tîm.
Wrth i’r garfan baratoi i deithio i Sweden ar gyfer gêm gyfeillgar, ac yna i Ffrainc ar gyfer Ewro 2016, bu Mentrau Iaith Cymru i gyd yn casglu’r negeseuon ar peli chwyddedig gan y cyhoedd ym mhob rhan o Gymru.
Roedd Gareth Bale a gweddill y garfan yno i dderbyn y 23 pêl nos Fercher, gyda’r Manic Street Preachers hefyd yn perfformio set i ddiddanu’r gynulleidfa ddethol.
Adam Jones, swyddog cyfathrebu Mentrau Iaith Cymru fu lawr yng Nhaerdydd ar gyfer y noson, sydd yn trafod yr ymgyrch a’r hwb y mae’r tîm pêl-droed wedi’i roi i statws y Gymraeg: