Fe fydd Clwb Criced Morgannwg yn croesawu 300 o weithwyr dur Tata i’r Swalec SSE nos Wener wrth iddyn nhw herio Swydd Hampshire yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast.

Mae cwmni Tata yn cyflogi mwy na 7,000 o weithwyr ledled Cymru ar safleoedd ym Mhort Talbot, Llanelli, Casnewydd a Shotton yn Sir y Fflint.

Bydd cynrychiolwyr o’r cwmni’n arddangos baner ‘Save our Steel’ ar y cae yn ystod yr egwyl rhwng y ddau fatiad.

Dywedodd cadeirydd undebau dur Port Talbot, Alan Coombs: “Mae’n braf cael cefnogaeth y cymunedau lleol a rhan o’r cymunedau yw’r timau chwaraeon lleol.

“Mae gyda ni bartneriaethau hirdymor gyda thimau megis Aberafan a Dreigiau Casnewydd Gwent ond mae’n wych gweld clybiau chwaraeon mawr eraill Cymru megis Clwb Criced Morgannwg, Clwb Pêl-droed Caerdydd a’r Gweilch yn cefnogi ein diwydiant sydd mor bwysig i Gymru.

“Mae’n rhoi hwb i weithwyr weld arwydd mor hael o gefnogaeth gan Glwb Criced Morgannwg ac mae cael arddangos ein baner ‘Save our Steel’ ar y cae yn helpu i gadw ein diwydiant yn llygad y cyhoedd.”

Dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris: “Mae ein cefnogaeth ni’n gadarn gyda phawb yn Tata Steel ac roedden ni’n falch o allu gwneud rhywbeth i gefnogi’r achos pwysig iawn hwn.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen at groesawu gweithwyr dur i’r Swalec SSE ar gyfer yr ornest T20 yn erbyn Swydd Hampshire ar Fehefin 3.”