Does dim newid yng ngharfan Morgannwg wrth iddyn nhw groesawu Swydd Hampshire i’r Swalec SSE yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast nos Wener.

Bydd y bowliwr cyflym o Dde Affrica, Dale Steyn yn ymddangos yn yr ail o’i chwe gêm ar ôl chwarae yn ei gêm gyntaf nos Fercher pan gollodd Morgannwg o saith wiced yn erbyn Swydd Essex.

Fe allai Andrew Salter gael ei gynnwys yn y tîm pe bai’r prif hyfforddwr Robert Croft yn dewis dau droellwr, wrth i’r troellwr llaw chwith Dean Cosker anelu am y garreg filltir o 100 wiced mewn gemau ugain pelawd i’r sir – mae e bum wiced yn brin o’r nod ar hyn o bryd.

Ar ôl colli nos Fercher, dywedodd Dean Cosker: “Taro nôl yw popeth mewn gemau criced T20, mae’r gemau’n mynd a dod yn gyflym ac ry’n ni’n edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Swydd Hampshire.”

Ymhlith carfan Swydd Hampshire mae dau o chwaraewyr gorau’r byd yn y fformat ugain pelawd – cyn-chwaraewr amryddawn Morgannwg, Darren Sammy a chwaraewr amryddawn Pacistan, Shahid Afridi.

Mae’r ymwelwyr yn dychwelyd i’r cae lle codon nhw dlws y T20 Blast yn 2012, ac mae ganddyn nhw record dda yn erbyn Morgannwg yn y gystadleuaeth hon, gyda buddugoliaethau yn ystod y ddau dymor diwethaf.

Collodd Swydd Hampshire eu gêm gyntaf eleni o 69 rhediad yn erbyn Swydd Middlesex, ond fe guron nhw Swydd Gaint nos Iau wrth i Afridi gipio tair wiced.

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), D Lloyd, C Ingram, A Donald, C Cooke, C Meschede, G Wagg, A Salter, D Steyn, T van der Gugten, M Hogan, D Cosker, M Wallace, N Selman, J Kettleborough, D Penrhyn-Jones

Carfan Swydd Hampshire: J Vince (capten), Shahid Afridi, M Carberry, W Smith, A Wheater, J Adams, M Crane, S Ervine, T Best, L Dawson, R Stevenson, G Berg, G Andrew, D Sammy