Ramsey a Bale - y bartneriaeth ddelfrydol i Gymru?
Gall Aaron Ramsey elwa o fod yng nghysgod Gareth Bale yn ystod Ewro 2016, yn ôl rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman.
Mae’r bartneriaeth rhwng y ddau yn cael ei hystyried yn un allweddol i Gymru wrth iddyn nhw herio Slofacia, Lloegr a Rwsia yng Ngrŵp B yn Ffrainc.
Ond yn ôl Coleman, does dim pwysau ar Ramsey i berfformio, er ei fod yn llwyr ymwybodol o’r hyn y gall y chwaraewr canol cae ei wneud â’r bêl yn ei feddiant.
Dywedodd Coleman: “Y cyfan dw i’n ei ddisgwyl gan Aaron yw bod yn Aaron Ramsey ar y cae.
“Gall e wneud rhywbeth sydd ddim gyda ni fel arall. Gall e wneud pethau yn y safle lle mae e’n chwarae na all chwaraewyr eraill ei wneud.
“Gall e ddechrau yn ein cwrt ni a gorffen ar ymyl cwrt y gwrthwynebwyr.
“Mae rhai o’i berfformiadau fe wedi bod ymhlith y gorau dw i wedi eu gweld gan unrhyw chwaraewr Cymru yng nghanol cae ers i fi fod yn rheolwr.
“Rwy wedi gweld rhai o’i berfformiadau lle mae e wedi rheoli’r gêm yn llwyr o ganol y cae.”
Ysgogiad i Bale
Yn ôl Coleman, gall perfformiadau Ramsey ysgogi Bale o flaen y gôl hefyd.
“Fe fyddai Bale yn dweud wrthoch chi cystal chwaraewr yw Aaron Ramsey.
“Mae e ar y bêl gymaint. Pan fo gyda chi gymaint o feddiant fel sydd ganddo fe [Ramsey], fe fydd yna gamgymeriadau, fe fyddwch chi’n ildio’r meddiant.
“Ond pan fo gyda chi ddychymyg fel fe a’r hyder sydd ganddo fe, fe fyddwch chi’n rhoi cynnig ar bethau sydd ddim bob amser yn gweithio.
“Ond pan fydd e’n gweithio, mae e’n gallu gwneud pethau sy’n agor drysau na all unrhyw un arall eu hagor.”