James Chester yn barod i lwyddo yn yr amddiffyn
Mae amddiffynnwr Cymru, James Chester wedi cyfaddef ei fod yn teimlo rhyddhad o fod wedi’i gynnwys yng ngharfan Chris Coleman ar gyfer cystadleuaeth Ewro 2016.
Talodd West Brom £8 miliwn i ddenu Chester i’r Hawthorns o Hull haf diwethaf – y swm mwyaf ar gyfer amddiffynnwr yn hanes y clwb – ond un gêm yn unig roedd e wedi’i chwarae cyn y Nadolig.
Ond ar ôl i reolwr Cymru, Chris Coleman fynegi pryder nad oedd Chester yn cael digon o amser ar y cae i’w glwb, fe gafodd ei gynnwys yn safle’r cefnwr de mewn 14 o gemau i dîm Tony Pulis.
Dywedodd Chester: “Mae wedi bod yn rhwystredig ar lefel bersonol gyda fy nghlwb.
“Unwaith yn unig rwy wedi chwarae yn safle’r amddiffynnwr canol drwy’r tymor sy’n rhwystredig gan ’mod i’n teimlo ’mod i’n ddigon da i chwarae yno bob wythnos yn yr Uwch Gynghrair.
“Ond mae’r amseru wedi bod yn eitha braf. Gyda’r Ewros ar y gorwel roedd hi’n bwysig cael amser mewn gemau waeth bynnag lle’r oedd hynny.
“Dyna oedd y pryder i fi. Ro’n i wedi chwarae rhan bwysig wrth gymhwyso felly ro’n i bob amser yn hyderus o gyrraedd y 23.
“Ond ro’n i’n gwybod os nad o’n i’n chwarae i fy nghlwb y byddai’n anodd iawn i’r rheolwr fy newis i fynd i dwrnament mawr.
“Felly roedd hi’n braf cael bod yn rhan o’r gemau.”
Symud i Abertawe?
Mae Chester wedi bod yn allweddol wrth galon yr amddiffyn gyda chapten Cymru ac Abertawe, Ashley Williams ac mae adroddiadau’n awgrymu y gallai’r ddau fod yn gyd-chwaraewyr yn y Liberty y tymor nesaf.
Ychwanegodd Chester: “Mae fy mhartneriaeth gydag Ashley wedi mynd o nerth i nerth ers i fi ymuno [â Chymru].
“Ry’n ni’n cyd-chwarae’n eitha da a phan ry’n ni wedi chwarae fel triawd gyda Ben [Davies] mae hynny wedi mynd yn dda hefyd.
“Mae’n awyrgylch lle’r y’n ni’n teimlo’n gartrefol ac mae gyda fi berthynas dda ag Ash. Ry’n ni’n deall ein gilydd ar y cae ac ry’n ni’n dod ymlaen yn dda iawn oddi ar y cae hefyd.”