Ramsey yng nghysgod Bale
Mae Aaron Ramsey wedi dweud ei fod yn barod i sefyll allan yn ystod Ewro 2016 wrth i Gymru geisio cymhwyso o’u grŵp.
Wrth i’w steil gwallt wneud iddo sefyll allan ar y cae ymarfer yng ngwesty’r Vale ym Mro Morgannwg, dywedodd seren Cymru ei fod yn barod i’w ddoniau ei osod ar wahân pan fydd y tîm yn Ffrainc ar gyfer Ewro 2016.
“Ie, dw i am greu argraff ar y cae. Dyna fy mhrif nod, sef helpu Cymru allan o’r grŵp a gweld lle awn ni o fynna.
“Mae’r bois yn gyffrous i ddangos beth maen nhw’n gallu gwneud. Gallwch chi wirioneddol deimlo’r cyffro yn y garfan.
“Allwn ni ddim aros i fynd allan a phrofi hynny a chwarae pêl-droed mewn twrnament.”
Ramsey a Bale
Fe fydd partneriaeth Ramsey a Gareth Bale yn allweddol i Gymru mewn grŵp lle byddan nhw’n herio Slofacia – sydd eisoes wedi curo’r Almaen dros yr wythnos ddiwethaf – Rwsia, a Lloegr.
Ac yn ôl Ramsey, dydy ymrwymiad Bale i Real Madrid yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yr wythnos diwethaf ddim wedi effeithio’n negyddol ar Gymru.
Daeth Bale oddi ar y cae ar ddiwedd yr ornest yn erbyn Atletico Madrid ar ôl chwarae 120 munud o bêl-droed ac fe lwyddodd gyda chic o’r smotyn i sicrhau ail dlws Ewropeaidd i’w dîm o fewn tair blynedd.
Dywedodd Ramsey: “Mae e’n iawn ac wedi dod dros y cramp.
“Mae’n gamp wych i ennill dwy Gynghrair y Pencampwyr, mae e’n dal i fod yn ifanc hefyd felly mae’n bosib y bydd e’n cael nifer eto.
“Rwy wrth fy modd ei fod e wedi ennill a’i fod e wedi dod nôl yn ffit a nawr, fel y gweddill ohonon ni, mae e’n edrych ymlaen at yr hyn sydd o’n blaenau ni.”