Cafodd 668 o ffoaduriaid eu hachub oddi ar arfordir Libya ddydd Sadwrn.

Roedd criwiau o Iwerddon a’r Almaen yn rhan o’r ymdrechion ym Môr y Canoldir i’r de o Sicily.

Daeth y cwch Gwyddelig Le Roisin o hyd i gorff dyn.

Roedd un o gychod yr Almaen wedi’i ddefnyddio mewn pedwar digwyddiad arall.

Mae 135 o oroeswyr – a 45 o gyrff – wedi cael eu cludo gan gwch Eidalaidd i borthladd Reggio Calabria yn ne’r Eidal.

Fel rhan o gytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd, roedd disgwyl i ddegau o filoedd o bobol oedd wedi’u hachub wrth iddyn nhw geisio lloches gael eu cludo o’r Eidal a Gwlad Groeg i wledydd eraill.

Ond dim ond canran fechan sydd wedi cael eu symud wrth i’r ffrae am ffoaduriaid barhau mewn nifer o wledydd.

Ddydd Sadwrn, dywedodd y Pab Ffransis wrth gannoedd o blant yn y Fatican nad yw ffoaduriaid “yn beryglus” ond eu bod nhw “mewn perygl”.

Ymhlith y plant roedd bachgen o Nigeria a gollodd ei rieni yn 2014 wrth i’r teulu geisio cyrraedd yr Eidal mewn cwch.