Ffoaduriaid yn cael eu hachub gan wylwyr y glannau yn yr Eidal Llun: PA
Mae ‘o leiaf 20’ o ffoaduriaid wedi marw ar ôl i’w cwch suddo oddi ar arfordir Libya.
Dywedodd gwylwyr y glannau yn yr Eidal, fod y cwch wedi cael ei weld o awyren oedd yn rhan o ymgyrch fonitro ac achub yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd y cwch tua 30 milltir oddi ar arfordir Libya ac fe anfonodd gwylwyr y glannau o’r Eidal ddau fad achub yno.
Cafodd 88 o bobol eu hachub o’r cwch pren, ac mae’n debyg bod 20 o gyrff wedi cael eu gweld yn y dwr.
Dyma un o 20 o ymgyrchoedd chwilio ac achub sydd yn digwydd ar Fôr y Canoldir heddiw. O’r wyth ymgyrch sydd wedi’i gwneud hyd yn hyn, mae tua 1,000 o fewnfudwyr wedi cael eu hachub.