Mae’r gweddillion dynol sydd wedi’u canfod ger safle damwain yr awyren EgyptAir 804 yn awgrymu y gallai “ffrwydrad fod wedi digwydd” ar fwrdd yr awyren cyn iddi blymio i Fôr y Canoldir ddydd Iau diwethaf.
Dyna sylwadau un o Uwch Swyddogion Fforensig yr Aifft wedi iddo archwilio darnau o’r gweddillion dynol, wedi i 66 o bobol oedd yn teithio ar yr Airbus 320 rhwng Paris a Cairo gael eu lladd.
Yn eu plith, roedd y Cymro sy’n wreiddiol o sir Gaerfyrddin, Richard Osman, 40 oed.
Ychwanegodd y Swyddog Fforensig fod yr 80 darn sydd wedi’u canfod hyd yn hyn yn fach iawn – “does dim rhan gyfan o’r corff yma, dim byd fel pen neu fraich.”
Ond, “yr unig esboniad rhesymegol yw bod yna ffrwydrad,” meddai.
Dim ‘tystiolaeth gadarn’
Er ei sylwadau, nid oedd y Swyddog yn medru cynnig datrysiad i’r hyn a achosodd y ffrwydrad.
Mae’r awdurdodau yn yr Aifft wedi dweud eu bod nhw’n credu fod brawychiaeth yn esboniad mwy tebygol na bod nam technegol.
Yn ogystal, mae rhai arbenigwyr hedfan wedi dweud fod adroddiadau Gweinidog Amddiffyn Gwlad Groeg yn awgrymu y bu ffrwydrad bom neu ryw fath o drafferth yng nghaban y peilot.
Ond, does dim tystiolaeth gadarn wedi dod i’r fei eto.
Blwch du
Mae teuluoedd y rhai a gafodd eu lladd wedi teithio i adran fforensig Cairo heddiw er mwyn cynorthwyo â’r ymchwil gan roi samplau o’u DNA.
Mae’r Aifft hefyd wedi anfon llong danfor i geisio dod o hyd i flwch du’r awyren, ac mae llongau o Brydain, Cyprus, Ffrainc, Groeg a’r Unol Daleithiau hefyd yn cynorthwyo a’r chwilio.