Fe welwyd mwg mewn mwy nag un lle ar awyren EgyptAir 804 cyn iddi blymio i’r ddaear yn y Mor Canoldir. Dyna ddywed yr asiantaeth o Ffrainc sy’n ymchwilio i achos y trychineb a laddodd 66 o bobol.

Mae hyn, meddai llefarydd ar ran yr asiantaeth, yn awgrymu “yn gyffredinol fod tân wedi cynnau”, cyn ychwanegu nad yw’r asiantaeth “yn mynd i ddod i unrhyw gasgliad ar sail hynny. Mae pob darn o wybodaeth yn rhan o greu’r darlun mawr”.

Ddydd Gwener, fe gyhoeddodd yr Aviation Herald fod mwg wedi’i adnabod gan sensorau yn nhoiled yr awyren, gan awgrymu fod yna dân ar fwrdd yr awyren.

Yn y cyfamser, mae timau chwilio yn dal i weithio yn y gobaith y down nhw o hyd i fwy o weddillion yr awyren, a’r bocsys duon sy’n cofnodi’r daith.