Mae cwmni fferyllol anferth Pfizer wedi cyhoeddi na fydd mwyach yn darparu ei gyffuriau i gael eu defnyddio i ladd caracharorion trwy’r gosb eithaf yn yr Unol Daleithiau.
Yn hytrach, meddai’r cwmni mewn datganiad ar y we: “Mae Pfizer yn cynhyrchu ei gyffuriau er mwyn arbed ac ymestyn bywydau y cleifion yr ydyn ni’n eu gwasanaethu.
“Yn unol â’r gwerthoedd hynny, mae Pfizer yn gwrthwynebu’n gryf y defnydd o’i gynnyrch i ladd ac i gosbi.”
Fydd cyhoeddiad y cwmni ddim yn cael effaith fawr yn syth bin, ond fe ddaw’r cyhoeddiad hwn wedi iddo brynu cwmni cyffuriau Hospira y llynedd. Roedd y cwmni llai wedi gwahardd defnydd o’i gynnyrch i ladd carcharorion hefyd.