Dilma Rousseff Llun: Senedd Brasil
Mae Senedd Brasil wedi pleidleisio gyda mwyafrif clir i uchelgyhuddo arlywydd benywaidd cyntaf y wlad, Dilma Rousseff.
Cafodd yr arlywydd ei chyhuddo o dwyllo cyfrifon er mwyn cuddio diffygion sylweddol yng nghyllideb y wlad.
Bydd hi nawr yn wynebu achos yn ei herbyn ar ôl i aelodau’r Senedd bleidleisio o 55 i 22 i’w gwahardd am chwe mis.
Yn ystod y cyfnod hwnnw fe fydd yr is-arlywydd, Michel Temer, yn cymryd yr awenau.
Bydd yr achos yn y Senedd yn penderfynu a fydd Dilma Rousseff yn cael cwblhau ei hail dymor fel arlywydd neu ai Michel Temer fydd yn aros yn y swydd tan fis Rhagfyr 2018.
Dim ond 41 pleidlais oedd ei hangen yn y Senedd, mewn sesiwn barhaodd 20 awr, er mwyn sicrhau’r mwyafrif a arweiniodd at gamau disgyblu yn erbyn yr arlywydd.