Heddlu'r Almaen (Llun: Wikipedia)
Yn ôl adroddiadau o’r Almaen mae o leiaf pedwar o bobl wedi’u hanafu mewn gorsaf ger Munich ar ôl i ddyn gyda chyllell ymosod arnyn nhw.

Credir bod un o’r teithwyr wedi cael eu hanafu’n ddifrifol yn yr ymosodiad mewn gorsaf yn Grafing.

Dywedodd yr heddlu wrth bapur newydd Bild bod yr ymosodwr wedi cael ei arestio ac maen nhw’n ymchwilio i honiadau ei fod wedi gweiddi “Allahu Akbar” – “mawredd Duw” – wrth iddo ymosod ar y teithwyr.