Mae Canghellor Awstria, Werner Faymann, wedi ymddiswyddo gan honni nad oes digon o gefnogaeth iddo yn ei blaid, sef Plaid y Democratiaid Cymdeithasol (Social Democratic Party).
Mae’r cyfryngau yn Awstria yn dweud bod Werner Faymann wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad mewn datganiad.
Daw’r penderfyniad lai na phythefnos ar ol i ymgeisydd y blaid ddod yn olaf ond un yn rownd gyntaf yr etholiadau ar gyfer arlywyddiaeth Awstria.
Cafodd y bleidlais ei hennill gan ymgeisydd y blaid asgell dde, y Blaid Rydd (Freedom Party) a oedd wedi ennill bron i bedair gwaith yn fwy o bleidleisiau’r etholwyr.
Daw’r canlyniadau yn dilyn cyfres o golledion mewn etholiadau taleithiol i Blaid y Democratiaid Cymdeithasol, sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth yn Awstria, ynghyd a Phlaid y Bobl (People’s Party), ers yr Ail Ryfel Byd.
Mae Plaid y Bobl hefyd wedi cael colledion tebyg.
Mae’r Blaid Rydd wedi perfformio’n dda yn sgil pryderon am argyfwng ffoaduriaid Ewrop.