Kim Jong Un, arweinydd Gogledd Corea Llun: PA
Mae gohebydd, cynhyrchydd a dyn camera sy’n gweithio i’r BBC wedi cael eu harestio yng ngogledd Corea, ac fe fyddan nhw’n cael eu diarddel ar ôl i’r llywodraeth fynegi pryderon dros waith y criw yno.
Cafodd Rupert Wingfield-Hayes, y cynhyrchydd Maria Byrne a’r dyn camera, Matthew Goddard eu harestio gan swyddogion wrth iddyn nhw geisio gadael Gogledd Corea.
Cafodd y gohebydd, Rupert Wingfield-Hayes, ei holi am wyth awr, a’i orfodi i lofnodi datganiad gan swyddogion Gogledd Corea, yn ôl y BBC.
Roedd y tri yn y brifddinas, Pyongyang, cyn cynhadledd y blaid sy’n llywodraethu yno, Plaid y Gweithwyr.
Mae’n debyg fod y llywodraeth wedi bod yn anhapus â rhai o adroddiadau’r criw, un oedd yn awgrymu bod yr awdurdodau wedi ceisio gwneud i ysbyty edrych yn well nag ydoedd.
Dywedodd gohebydd arall ar ran y BBC, Stephen Evans, sy’n dal i fod yng Ngogledd Corea, fod ei gyd-weithiwr wedi gofod arwyddo cyfaddefiad yn cadarnhau bod ei waith yn anghywir.
Yn ôl ysgrifennydd cyffredinol Pwyllgor Heddwch Cenedlaethol Gogledd Corea, O Ryong Il, roedd cynnwys newyddion y criw yn gamarweiniol ac yn “enllibio’r system ac arweinyddiaeth y wlad”.