Fort McMurray yn Alberta
Mae disgwyl i’r tanau sydd wedi difetha rhannau helaeth o ddinas Fort McMurray yn nhalaith Alberta yng Nghanada bara am rai misoedd.
Mae swyddogion yn gofidio y gallai’r tanau ddyblu mewn maint, gan gyrraedd talaith Saskatchewan.
Dywedodd llywodraeth Alberta y byddai’r tanau wedi gorchuddio mwy na 494,211 erw o dir erbyn dydd Sul ac y byddai’n parhau i ledu oherwydd y tymheredd uchel, amodau sych a gwyntoedd cryfion.
Dywedodd swyddog tanau gwyllt yn yr ardal nad yw hi’n anghyffredin i frwydro yn erbyn y fath danau mewn coedwigoedd am rai misoedd.
Mae lle i gredu na fu unrhyw un farw o ganlyniad i’r tanau a ddechreuodd ddydd Sul diwethaf.
Gan fod y tanau’n agos i feysydd olew, mae’r tanau wedi effeithio’n sylweddol ar gynhyrchiant olew Canada dros y dyddiau diwethaf, ac mae disgwyl i hynny gael effaith negyddol ar economi’r wlad, sydd eisoes wedi’i niweidio gan ostyngiad ym mhris olew.
Mae mwy nag 80,000 o bobol wedi cael eu gorfodi o’u cartrefi yn Fort McMurray, lle mae 1,600 o gartrefi ac adeiladau eraill wedi cael eu dinistrio.
Mae’r tanau wedi effeithio ar gyflenwadau nwy, trydan a dŵr.