Sadiq Khan yw maer newydd Llundain, gan olynu Boris Johnson
Dim ond trwy ddenu mwy na dim ond ymgyrchwyr y gall y Blaid Lafur ennill etholiadau, yn ôl maer newydd Llundain, Sadiq Khan.

Wrth iddo gael ei dderbyn yn swyddogol mewn seremoni arbennig yng Nghadeirlan Southwark, dywedodd Khan na fyddai apelio at bleidleiswyr traddodiadol yn unig yn ddigon i Jeremy Corbyn a’i blaid ennill etholiadau.

Daeth Khan i’r brig ar ddiwedd ymgyrch lle cafodd ei gyhuddo gan ei wrthwynebydd Zac Goldsmith o fod â chysylltiadau ag eithafiaeth Islamaidd.

Dywedodd Khan fod yr ymgyrch “yn syth allan o lyfr chwarae Donald Trump”, a bod rhaid i’w blaid geisio osgoi canolbwyntio ar faterion mewnol wrth symud ymlaen i’r dyfodol.

Fe fu’n rhaid i arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn wfftio honiadau bod rhwyg o fewn y blaid ar ôl iddo gadw draw o’r seremoni i gyflwyno Sadiq Khan yn swyddogol.

Yn hytrach, roedd Corbyn ym Mryste i longyfarch maer newydd y ddinas honno, Marvin Rees.

Dywedodd Corbyn ei fod eisoes wedi llongyfarch Sadiq Khan, ac mae disgwyl i’r ddau gyfarfod ddydd Llun.

Gwersi

Mae Sadiq Khan wedi amlinellu ei weledigaeth mewn erthygl ym mhapur newydd yr Observer.

“Yn gyntaf, dim ond pan ydym yn wynebu allan a chanolbwyntio ar y materion y mae’r bobol yn gofidio amdanyn nhw y mae Llafur yn ennill.

“Ac yn ail, ni fydd pobol yn ymddiried ynom i lywodraethu oni bai ein bod yn estyn allan ac ymgysylltu â phob pleidleisiwr – waeth bynnag am eu cefndir, lle maen nhw’n byw neu lle maen nhw’n gweithio.

“Efallai bod ffrae am strwythurau’r blaid yn fewnol yn bwysig i rai o fewn y blaid, ond mae’n amlwg nad ydyn nhw’n bwysig i’r mwyafrif o bleidleiswyr.”

Ychwanegodd fod rhaid i’r Blaid Lafur fod yn “babell fawr sy’n apelio i bawb – nid dim ond ei hymgyrchwyr”.

“Rhaid ein bod ni’n gallu perswadio pobol a bleidleisiodd dros y Ceidwadwyr yn y gorffennol y gellir ymddiried yn Llafur o ran yr economi a diogelwch, ynghyd â gwella gwasanaethau cyhoeddus a chreu cymdeithas decach.”

Fe gyhuddodd Zac Goldsmith a Phrif Weinidog Prydain, David Cameron o “rannu cymunedau Llundain mewn ymgais i ennill pleidleisiau”.