Senedd Gwlad Groeg
Bydd gwasanaethau cyhoeddus yn dod i stop yng Ngwlad Groeg dros y tridiau nesaf wrth i weithwyr fynd ar streic mewn protest yn erbyn mesurau llymder newydd.
Mae’r gweithwyr yn honni y bydd y eu hincwm yn gostwng fwy fyth.
Mae’r llywodraeth yn mynnu y bydd y diwygiadau yn creu system decach ac yn rhoi terfyn ar flynyddoedd o ildio grym gwleidyddol i grwpiau llafur pwerus.
Gwelir y streiciau fel arwydd o anfodlonrwydd cynyddol gyda llywodraeth glymblaid sy’n cael ei arwain gan y blaid asgell chwith, Syriza.
Bydd llawer o wasanaethau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys gwasanaethau casglu gwastraff, trafnidiaeth gyhoeddus, swyddfeydd dinesig a darllediadau newyddion sianel deledu’r wladwriaeth yn dod i stop.
Ni fydd llongau fferi ynysoedd Groeg yn gweithredu tan fore dydd Mawrth. Ac mae meddygon, deintyddion a newyddiadurwyr hefyd yn ymuno â’r streic, tra bod cyfreithwyr wedi ymatal rhag ymddangos yn y llys ers misoedd.
Mae’r streic yn cael ei hamseru i gyd-fynd â’r bleidlais Seneddol nos Sul i newid y system talu pensiwn. Mae’r newid yn rhan o ofynion y mae’n rhaid i’r wlad eu gwneud er mwyn derbyn rhagor o arian rhyngwladol.