Mae Llywodraeth Prydain wedi cadarnhau y bydd gwaharddiad llwyr ar gyffuriau ‘cyfreithlon – ‘legal highs’ – yn dod i rym ddiwedd y mis.
Bydd y cyfreithiau newydd a basiwyd i fynd i’r afael â’r cyffuriau ‘cyfreithlon’, sydd wedi eu cysylltu ag ugeiniau o farwolaethau, yn dod i rym yng ngwledydd Prydain ar 26 Mai.
Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i gynhyrchu, dosbarthu, gwerthu a chyflenwi sylweddau seicoweithredol, gyda throseddwyr yn wynebu hyd at saith mlynedd yn y carchar.
Ni fydd nifer o sylweddau cyfreithlon fel alcohol, tybaco, nicotin, caffein a chynnyrch meddygol yn cael eu cynnwys dan y ddeddf newydd.
Roedd disgwyl y byddai’r mesurau yn cael eu cyflwyno ym mis Ebrill, ond cafodd y dyddiad ei ohirio gyda gweinidogion yn dweud eu bod angen sicrhau bod sefydliadau’n barod i weithredu’r gyfraith newydd.
Wythnos diwethaf, dangosodd astudiaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau ‘cyfreithlon’ wedi codi o saith i 23 mewn dwy flynedd rhwng 2011 a 2013.