Ahmet Davutoglu, Prif Weinidog Twrci
Mae prif weinidog Twrci, Ahmet Davutoglu, wedi cyhoeddi ei fod am ymddiswyddo.
Dywedodd Ahmet Davutoglu wrth y genedl ei fod wedi penderfynu gwneud hynny er mwyn sicrhau undod ei blaid, sy’n rheoli’r wlad.
Cyhoeddodd ei fod yn ymddiswyddo yn dilyn cyfarfod gyda swyddogion plaid AKP sydd wedi bod yn dominyddu gwleidyddiaeth Dwrcaidd ers 2002.
Roedd y prif weinidog wedi anghydweld gydag Arlywydd y wlad, Tayyip Erdogan.
Nid yw’r penderfyniad yn dod i rym ar unwaith gan y bydd y blaid yn cynnal confensiwn brys ar Fai 22 i ddewis arweinydd newydd a fyddai hefyd yn cymryd lle’r prif weinidog. Dywedodd Ahmet Davutoglu na fyddai’n ymgeisio.