Plismyn arfog yn Istanbwl, Twrci
Mae 15 o bobl wedi cael eu harestio gan yr awdurdodau yn Nhwrci yn dilyn ymosodiad gan hunan-fomiwr ddoe pan gafodd 13 o bobl eu hanafu.

Roedd y ddynes wedi ffrwydro’r bom ger mosg mewn ardal hanesyddol yng ngogledd orllewin dinas Bursa ddydd Mercher.

Nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb ond mae adroddiadau yn y cyfryngau yn Nhwrci yn dweud bod yr awdurdodau’n amau bod y Wladwriaeth Islamaidd (IS) y tu ôl i’r ymosodiad.

Dywedodd gweinidog y llywodraeth, Efkan Ala, bod yr heddlu wedi arestio 15 o bobl yn Bursa, Istanbwl a dwy ddinas arall ddydd Iau.

Mae cynnydd wedi bod yn nifer yr ymosodiadau o’r fath yn Nhwrci yn ddiweddar – mae mwy na 200 o bobol wedi’u lladd ar draws y wlad mewn saith ymosodiad gan hunan-fomwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Twrci wedi bod dan bwysau yn sgil y rhyfel cartref yn Syria a’r gwrthdaro gyda gwrthryfelwyr Cwrdaidd.