Y 96 o gefnogwyr pel-droed fu farw yn Hillsborough Llun: PA
Daeth teuluoedd y 96 o gefnogwyr pêl-droed fu farw yn nhrychineb Hillsborough ynghyd mewn gwasanaeth coffa arbennig yn Lerpwl neithiwr.

Roedd miloedd o bobl wedi ymuno a nhw tu allan i Neuadd San Siôr yn y ddinas yn dilyn penderfyniad y rheithgor bod y 96 o gefnogwyr Lerpwl wedi’u lladd yn anghyfreithlon, ac nad oedden nhw ar fai.

Mae’n dilyn ymgyrch dros gyfnod o 27 mlynedd gan y teuluoedd am gyfiawnder i’r 96 fu farw ym 1989.

Wrth annerch y dorf, dywedodd Maer Lerpwl Joe Anderson bod “y gwirionedd wedi ennill buddugoliaeth”.

Fe roddodd deyrnged i’r teuluoedd a’r ymgyrchwyr am eu brwydr dros “y gwirionedd a chyfiawnder.”

‘Fe wnaethoch chi waith da’ – neges i gyn-blismyn

Yn y cyfamser mae grŵp o gyn-swyddogion Heddlu De Swydd Efrog fu’n gwasanaethu yn y 1980au wedi cael neges i ddweud eu bod nhw wedi “gwneud gwaith da”, yn ôl adroddiadau, wrth i’r llu wynebu beirniadaeth yn sgil cwestau Hillsborough.

Fe ymddangosodd y neges ar wefan Cymdeithas Genedlaethol De Swydd Efrog ar gyfer swyddogion yr heddlu sydd wedi ymddeol, ond nid oedd bwriad i’w wneud yn gyhoeddus, yn ôl y BBC.

Dywedodd y neges, gan Rick Naylor, ysgrifennydd y Gymdeithas, bod cyn-swyddogion wedi ymddwyn gydag urddas yn wyneb “casineb” tuag at y llu, a oedd wedi wynebu “heriau sylweddol” yn y 1980au, yn ôl yr adroddiadau.

Ychwanegodd Rick Naylor bod gan swyddogion yr heddlu “gydymdeimlad dwys” gyda’r teuluoedd.

Daw’r neges ar ôl i Brif Gwnstabl Heddlu De Swydd Efrog David Crompton gael ei atal o’i waith ddydd Mercher, yn sgil beirniadaeth lem o’r modd yr oedd y llu wedi ymateb i’r cwest.