Mae nifer y meirw yn Ecwador wedi cynyddu i 350 erbyn hyn yn dilyn daeargryn grymus yno nos Sadwrn, meddai gweinidog diogelwch y wlad, Cesar Navas.
Mae miloedd mwy wedi’u hanafu a pharhau mae’r chwilio am unrhyw oroeswyr o dan rwbel yr adeiladau a gafodd eu dymchwel gan y daeargryn, oedd yn mesur 7.8 ar raddfa Richter.
Erbyn hyn, mae timau achub a chymorth dyngarol o wledydd eraill yn Ne America wedi cyrraedd y wlad i gynnig cymorth, ac mae’r Unol Daleithiau wedi dweud y byddan nhw’n helpu mewn unrhyw ffordd bosib.
Mae stad o argyfwng wedi cael ei gyhoeddi yn chwech o 24 talaith Ecwador – gyda 10,000 o aelodau o’r lluoedd arfog a 4,600 o swyddogion yr heddlu wedi cael eu hanfon i’r trefi sydd wedi’u heffeithio.
Yn ôl y Groes Goch yn Sbaen, gall fod angen cymorth ar gymaint â 100,000 o bobol yn yr ardaloedd sydd wedi’u heffeithio, ac mae angen lloches dros dro ar rhwng 3,000 a 5,000 o bobol, sydd wedi colli eu cartrefi.
Fe ddigwyddodd y daeargryn tua 16 milltir o Muisne sy’n boblogaidd gyda thwristiaid. Mae cartrefi, adeiladau a ffyrdd wedi cael eu dinistrio gyda mwy na 70% o dref Pedernales, lle mae 40,000 o bobl yn byw, wedi’i difrodi’n llwyr.
Llefydd eraill sydd wedi’u heffeithio yw Manta, Portoviejo a Guayaquil, dinas fwyaf poblog Ecwador, lle wnaeth prif ffordd gael ei dymchwel yn dilyn y daeargryn.