Safle gwaith dur Port Talbot
Wrth drafod dyfodol diwydiant dur Cymru â gweinidogion o bob cwr o’r byd, mae Gweinidog Economi Cymru wedi dweud “ein bod mewn argyfwng na welwyd mo’i debyg o’r blaen.”
Yn ôl Edwina Hart, a oedd yn y trafodaethau dur rhyngwladol, mae gwledydd eraill yn cytuno â hi a dywedodd fod “pawb yn cytuno y dylid cymryd camau i ddelio â hyn.”
Roedd Ysgrifennydd Busnes y DU, Sajid Javid, yn y cyfarfod hefyd a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o China, India a 27 o wledydd eraill, i drafod y sefyllfa bresennol a cheisio canfod ateb i’r broblem.
‘China’n cydnabod y broblem’
Yn ôl Llywodraeth y DU, mae China wedi cytuno i fynd i’r afael a gor-gynhyrchu dur sydd, ynghyd a phrisiau ynni uchel, yn cael y bai am sefyllfa’r diwydiant ar hyn o bryd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid bod y trafodaethau ym Mrwsel wedi bod yn “adeiladol.”
Dyma’r tro cyntaf i’r holl wledydd sy’n cynhyrchu dur ddod at ei gilydd er mwyn trafod y broblem o or-gynhyrchu, meddai.
Wrth son am ymateb China dywedodd Sajid Javid: “Maen nhw’n cydnabod ei bod yn broblem o or-gynhyrchu yn eu gwlad. Maen nhw wedi ymrwymo i wneud rhywbeth ynglŷn â hyn ac rwy’n credu bod hynny’n gam bositif ymlaen.”
Ansicrwydd i weithwyr Cymru
Gyda phrisiau dur yn disgyn a’r galw yn lleihau, fe wnaeth cwmni dur Tata, sydd wedi’i leoli yn India, gyhoeddi ym mis Mawrth y bydd yn gwerthu ei holl fusnes yn y DU.
Heddiw fe gyhoeddodd Tata ei fod wedi penodi prif weithredwr ar gyfer ei fusnes yn y Deyrnas Unedig wrth iddo barhau i edrych am brynwr i’w safleoedd dur. Mae hyn yn cynnwys ei safleoedd yng Nghymru – y mwyaf ym Mhort Talbot, lle mae 4,000 o weithwyr, ac yn Shotton, Llanwern a Throstre.
Bimlendra Jha, aelod o fwrdd gweithredol Tata Steel yn Ewrop, a fydd wrth y llyw yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn i filoedd o weithwyr dur yng Nghymru.
Ysgrifennydd Cymru yn Shotton
Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yn safle dur Shotton heddiw i gwrdd â gweithwyr sydd wedi’u heffeithio.
Mae disgwyl i Anna Soubry, Gweinidog Busnes y DU, siarad mewn cynhadledd ym Mrwsel ddydd Iau fel rhan o’r Diwrnod Dur Ewropeaidd.