Mae ymchwil newydd yn dangos fod pobol ar draws y Deyrnas Unedig mewn perygl cynyddol o gael eu stelcian drwy gyfryngau ar-lein bellach.

A hithau’n Wythnos Genedlaethol Codi Ymwybyddiaeth o Stelcian (Ebrill 18 -22), mae arolwg diweddar yn dangos fod 18% o ferched ym Mhrydain a 8% o ddynion wedi cael eu stelcio.

Fe gymerodd 4,000 o bobol ran yn yr arolwg, ac roedd y canlyniadau’n dangos fod 37% o’r dioddefwyr wedi cael eu stelcio drwy gyfryngau cymdeithasol, fel Facebook neu e-bost.

Yn ogystal – o’r holl achosion hynny – dim ond tua 27% ohonyn nhw gafodd eu cyfeirio at yr heddlu.

 

‘Gwella’r hyder’

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi datgan eu cefnogaeth i’r ymgyrch yr wythnos hon i godi ymwybyddiaeth o stelcian.

Yn ôl Simon Williams, Prif Arolygydd Uned Diogelu Pobol Fregus Heddlu’r Gogledd: “Mae effaith stelcian ac aflonyddu ar ddioddefwyr, teuluoedd a chymunedau yn medru bod yn ddinistriol.”

“Rydym ni’n benderfynol o wella’r hyder a nifer yr achosion sy’n cael eu cyfeirio at yr heddlu drwy gynyddu nifer y stelcwyr sy’n wynebu erlyniad – a sicrhau hefyd bod mesurau yn eu lle i ddiogelu dioddefwyr pan nad yw dedfrydu’n bosib.”

Cafodd yr arolwg ei chomisiynu gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh.