Heddlu arfog ar strydoedd Brwsel
Mae tri o bobl wedi cael eu harestio ym Mrwsel mewn cysylltiad â’r ymosodiadau brawychol ym Mharis, yn ôl erlynwyr.
Dywedodd swyddfa’r erlynydd ffederal mewn datganiad bod y tri wedi cael eu harestio yn dilyn cyrch yn Uccle, rhanbarth ar gyrion y brifddinas.
Fe fydd barnwr yn penderfynu ddydd Mercher a ddylai’r tri gael eu cadw yn y ddalfa. Dywedodd na fydd unrhyw fanylion pellach yn cael eu datgelu am y cyrch.
Roedd nifer o’r brawychwyr a ymosododd ar brifddinas Ffrainc ar 13 Tachwedd y llynedd, gan ladd 130 o bobl, yn byw ym Mrwsel.