Arseniy Yatsenyuk wedi goroesi pleidlais o ddiffyg hyder ym mis Chwefror
Mae Prif Weinidog yr Wcráin, Arseniy Yatsenyuk wedi ymddiswyddo.

Mae ei ymddiswyddiad yn benllanw ffrae wleidyddol a fydd yn arwain at ffurfio llywodraeth newydd.

Ar y teledu ddydd Sul, dywedodd Yatsenyuk y byddai’n cyflwyno’i ymddiswyddiad i’r senedd yn ffurfiol ddydd Mawrth.

Fe oroesodd y llywodraeth bleidlais o ddiffyg hyder ym mis Chwefror, ond fe ddaeth y glymblaid i ben wedi i ddwy blaid ei gadael, fel nad oedd gan y llywodraeth fwyafrif ar ôl hynny.