Si fod y ffin ar fin agor arweiniodd at y gwrthdaro
Mae heddlu Macedonia wedi bod yn gwrthdaro â ffoaduriaid wrth iddyn nhw geisio dringo ffens i groesi’r ffin gyda Gwlad Groeg yn nhref Idomeni.

Defnyddiodd yr heddlu nwy ddagrau a chyfarpar arall i dawelu’r ffoaduriaid, ond fe gafodd cerrig eu taflu atyn nhw.

Dywedodd y wasg leol fod bwledi plastig hefyd wedi cael eu defnyddio gan yr heddlu.

Cafodd nifer o bobol driniaeth am broblemau anadlu yn dilyn y gwrthdaro.

Mae lle i gredu bod y gwrthdaro wedi dechrau yn dilyn si fod y ffin yn cael ei hagor.