Galarwyr yn cludo arch chwaraewr pêl-droed a fu farw mewn ymosodiad gan hunan-fomiwr yn Najaf, Irac, ddydd Sadwrn diwethaf (llun: AP Photo/Anmar Khalil)
Cafodd o leiaf 1,119 o bobl eu lladd yn Irac ym mis Mawrth, yn ôl y Cenhedloedd Unedig.

Mae hyn yn gynnydd mawr o’i gymharu â’r mis cynt, wrth i’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) ddwysáu eu hymosodiadau ar bobl gyffredin.

Y brifddinas Baghdad sydd wedi cael ei tharo fwyaf, gyda 259 yn cael eu lladd a 770 yn cael eu hanafu.

Dywedodd llysgennad y Cenhedloedd Unedig yn Irac, Jan Kubis ei fod yn hynod bryderus am yr holl golli bywydau ac anafiadau sy’n digwydd o ganlyniad i ymosodiadau treisgar.

“Mae’n gwbl annerbyniol mai pobl gyffredin sy’n dioddef y trais mwyaf,” meddai.

Mae IS yn rheoli rhannau helaeth o ogledd a gorllewin Irac ers haf 2014, lle mae wedi sefydlu caliphate Islamaidd sy’n gweithredu fersiwn dreisgar o gyfraith Islamaidd.

Mae lluoedd Irac gyda chefnogaeth lluoedd o dan arweiniad America wedi ennill rhywfaint o dir oddi wrth IS dros y misoedd diwethaf.