Baner y Wladwriaeth Islamabad
Mae lluoedd America wedi lladd un o arweinwyr blaenllaw’r Wladwriaeth Islamaidd, yn ôl Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, Ash Carter.

Fe wnaeth enwi’r arweinydd fel Haji Imam a’i ddigrifio fel gweinidog cyllid y grŵp o eithafwyr Islamaidd a oedd wedi chwarae rhan allweddol mewn cynllwynio ymosodiadau.

Haji Imam yw’r ddiweddaraf o amryw o arweinwyr y Wladwriaeth Islamaidd i gael ei ladd gan luoedd America dros y misoedd diwethaf.

Yn gynharach y mis yma, dywedodd y Pentagon eu bod wedi lladd Omar al-Shishani, a oedd yn cael ei ddisgrifio fel ‘gweinidog rhyfel’ y Wladwriaeth Islamaidd, mewn ymosodiad o’r awyr yn Syria. Roedden nhw hefyd wedi lladd Abu Nabil, un arall o brif arweinwyr IS, mewn ymosodiad o’r awyr yn Libya ym mis Tachwedd.

“Mae’r arweinwyr hyn wedi bod o gwmpas ers amser maith, roedden nhw’n ffigurau blaenllaw, ac yn brofiadol,” meddai Ash Carter mewn cynhadledd i’r wasg.

Gwrthododd ddweud os mai yn Syria neu Irac y cafodd Haji Imam ei ladd.