Mae Seland Newydd wedi pleidleisio dros gadw eu baner bresennol.
Pleidleisiodd dros 2 filiwn mewn refferendwm i benderfynu os oedd y wlad am ddewis cadw Jac yr Undeb ar eu baner neu ddewis ddyluniad newydd o’r rhedyn arian yn unig.
Yn y refferendwm, roedd 57% wedi pleidleisio dros gadw’r faner bresennol, gyda 43% wedi pleidleisio dros y dyluniad newydd.
Mae’r faner bresennol wedi bod yn sumbol cenedlaethol Seland Newydd ers 1902.
Fe roedd y faner bresennol yn wynebu her gan ddyluniad newydd a oedd wedi cael ei ddewis gan 10,000 o’r cyhoedd.
Fe roedd cefnogwyr o blaid dyluniad newydd yn dadlau fod y faner bresennol yn grair o orffennol trefedigaethol y wlad ac yn rhy debyg i faner Awstralia.
Credodd cefnogwyr y faner bresennol fod y dyluniad newydd yn anysbrydoledig ac yn ymgais i’r Prif Weinidog John Key i greu cymynrodd i’w hun.