Mae dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio dwy ddynes mewn dau ymosodiad ar wahan.

Fe glywodd Heddlu Cleveland fod un wraig wedi’i hanafu’n ddifrifol mewn cyfeiriad yn Redcar am 8.45yh neithiwr.

Dim ond saith munud yn ddiweddarach, am 8.52yh, fe ddaeth adroddiad arall am ail ddynes oedd wedi diodde’ ymosodiad ciaidd yn yr un ardal.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau heddiw fod y ddwy ddynes wedi marw o ganlyniad i’w hanafiadau difrifol.

Fe gafodd dyn 34 oed ei arestio ar amheuaeth o ddau lofruddiaeth. Mae’n parhau yn y ddalfa.