Mae’r holl deithiau awyrennau rhwng y Deyrnas Unedig a’r prif faes awyr ym Mrwsel wedi eu gohirio heddiw ac am weddill y dydd yn sgil y gyfres o ffrwydradau.

Mae’r holl drenau Eurostar i Frwsel wedi eu gohirio hefyd, gyda’r gwasanaethau o Lundain yn cyrraedd pen eu taith yn ninas Lille yn Ffrainc.

Bellach mae heddlu Prydain wedi cynyddu ei bresenoldeb gan gyflwyno mesurau diogelwch mewn canolfannau trafnidiaeth yn y DU.

Yn ôl maes awyr Brwsel, bydd eu gwasanaethau’n parhau ynghau tan ddydd Mercher.

‘Osgoi trafnidiaeth gyhoeddus’

Mae meysydd awyr Heathrow a Gatwick wedi rhyddhau datganiadau’n dweud eu bod wedi “cynyddu eu presenoldeb diogelwch.”

Yn ôl y Swyddfa Dramor, dylai Prydeinwyr sy’n teithio i Frwsel “gadw’n glir o ardaloedd poblog ac osgoi trafnidiaeth gyhoeddus ar yr adeg yma.”

Dywedodd llefarydd ar ran y sefydliad ABTA, sy’n cynnig cyngor i deithwyr, y dylai Prydeinwyr sydd ar eu gwyliau ym Mrwsel ddilyn cyfarwyddiadau awdurdodau Brwsel a chysylltu â’u darparwr cludiant.

Ychwanegodd fod Brwsel yn atyniad poblogaidd i ymwelwyr o’r DU, gyda mis Mawrth yn un o’r “misoedd tawelach ar gyfer teithio hamddenol.”