Mae rhan o’r A40 yn sir Gaerfyrddin wedi ei chau i’r ddau gyfeiriad oherwydd gwrthdrawiad y bore yma.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod y gwrthdrawiad wedi digwydd rhwng Hendy-gwyn a Sanclêr, ac nid oes manylion pellach wedi eu rhyddhau eto.

Mae traffig yn cael eu dargyfeirio, a’r heddlu’n rhybuddio y gallai’r ffordd fod ynghau am beth amser.