Mae un Prydeiniwr wedi ei anafu yn yr ymosodiadau bom ym Mrwsel y bore ma, meddai Downing Street.

Cafodd y person ei anafu yn ystod y ddau ffrwydrad ym maes awyr Brwsel.

Mae’n debyg bod hyd at 34 o bobl wedi’u lladd a 17o wedi’u hanafu yn yr ymosodiadau ar y maes awyr ac, yn fuan wedyn, yng ngorsaf drenau’r Metro yn Maelbeek, sydd yn agos at bencadlys yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Swyddfa Dramor yn cynghori Prydeinwyr ym Mrwsel i osgoi mannau poblog a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Fe alwodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, gyfarfod Cobra brys heddiw, ac mae wedi datgan ei “gefnogaeth lawn” i Charles Michel, Prif Weinidog Gwlad Belg.

“Gallai’r rhain yn hawdd fod wedi bod yn ymosodiadau ym Mhrydain, Ffrainc neu’r Almaen neu unrhyw le arall yn Ewrop ac mae angen inni sefyll yn gadarn yn erbyn y brawychwyr a sicrhau na allan nhw fyth ennill.”

Dywedodd fod Prydain yn gwneud “popeth o fewn ein gallu i gynyddu ein diogelwch ein hunain,” gyda swyddogion yr heddlu’n bresennol mewn canolfannau trafnidiaeth ledled y DU.