Y difrod wedi'r ffrwydrad ym maes awyr Brwsel Llun: O gyfrif Facebook Jef Versele
Mae o leiaf 34 o bobl wedi’u lladd a 170 o bobl eraill wedi’u hanafu yn dilyn cyfres o ffrwydradau ym maes awyr Brwsel a system drenau tanddaearol y ddinas.
Mae’r adroddiadau diweddaraf yn awgrymu bod o leiaf 14 o bobl wedi’u lladd ac 81 wedi’u hanafu yn y maes awyr, a 20 wedi’u lladd yng ngorsaf drenau Metro Maelbeek, sydd yn agos at bencadlys yr Undeb Ewropeaidd.
Daw’r ffrwydradau ddyddiau’n unig ar ôl i’r dyn sy’n cael ei amau o gynllwynio ymosodiadau Paris ym mis Tachwedd y llynedd, Salah Abdeslam, gael ei arestio ym mhrifddinas Gwlad Belg.
Digwyddodd y ddau ffrwydrad yn neuadd ymadael maes awyr Brwsel tua 8 o’r gloch (amser lleol) bore ma. Mae’n debyg bod hunan-fomiwr wedi ffrwydro bom ger desg American Airlines.
Dywedodd erlynydd Gwlad Belg, Frederic Van Leeuw, eu bod yn ystyried y ffrwydradau fel “ymosodiadau brawychol.”
Mae’r holl hediadau wedi cael eu canslo ac mae awyrennau oedd yn cyrraedd y maes awyr wedi cael eu dargyfeirio. Mae trenau a bysiau yn cael eu hatal rhag mynd i’r maes awyr ac mae pobl yn y brifddinas yn cael eu cynghori i “aros lle maen nhw.”
Mae llygad-dystion wedi disgrifio’r “panig a’r anrhefn” yn y maes awyr a golygfeydd “tebyg i faes y gad” gyda lluniau’n dangos mwg yn codi o’r adeilad a ffenestri wedi chwalu.
Ffrwydrad mewn gorsaf Metro
Yn y cyfamser mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn rhoi cymorth i bobl ger mynedfa gorsaf Metro Maelbeek.
Cafodd ffrwydrad grymus ei glywed tua hanner awr wedi’r ddau ffrwydrad yn y maes awyr, wrth i drên adael yr orsaf ac mae teithwyr wedi cael eu symud o’r safle. Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaethau brys bod 20 o bobl wedi’u lladd yno a tua 55 wedi’u hanafu.
Cyfarfod brys Cobra
Mae Gwlad Belg bellach ar ei lefel uchaf o ddiogelwch ac mae mesurau diogelwch hefyd wedi cael eu tynhau yn holl feysydd awyr Paris.
Mae disgwyl i David Cameron gadeirio cyfarfod o bwyllgor brys Cobra y Llywodraeth yn dilyn y ffrwydradau bore ma.
Mae Maer Llundain Boris Johnson wedi dweud y “gallai un person o’r DU” fod ymhlith y rhai sydd wedi’u hanafu.
Salah Abdeslam
Cafodd Abdeslam, sy’n cael ei amau o gynllwynio’r ymosodiadau ym Mharis pan gafodd 130 o bobl eu lladd, ei arestio ddydd Gwener ar ôl i’r heddlu fod yn chwilio amdano ers pedwar mis.
Ond mae’r awdurdodau yng Ngwlad Belg yn pryderu bod ganddo gynorthwywyr sydd yn dal ar ffo ac y gallen nhw beri bygythiad.