Barack Obama gyda'i wraig, Michelle, yn cwrdd a theuluoedd yn llysgenhadaeth America yn Havana
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama wedi dechrau  ei ymweliad “hanesyddol” a Chiwba.

Barack Obama yw Arlywydd cynta’r Unol Daleithiau i fynd i Giwba ers 88 o flynyddoedd yn dilyn gelyniaeth rhwng y ddwy wlad dros y degawdau.

Er bod rhai gwahaniaethau yn parhau, mae’r berthynas economaidd a gwleidyddol wedi newid yn sylweddol yn ystod y 15 mis ers i Obama ac Arlywydd Ciwba Raul Castro wneud addewid i adfer y berthynas rhwng y ddwy wlad.

Fe fydd yn cael ei groesawu’n swyddogol gan Castro mewn seremoni yn ddiweddarach.

Mae teulu Obama, ei wraig Michelle a’i ddwy ferch, wedi ymuno ag ef ar y daith.

“Mae’n ymweliad hanesyddol,” meddai Obama. “Mae’n gyfle hanesyddol i gwrdd â phobl Ciwba.”

Roedd yr Unol Daleithiau wedi torri cysylltiadau diplomyddol gyda Ciwba yn 1961 ar ôl i chwyldro Fidel Castro arwain at bryderon y byddai comiwnyddiaeth yn lledu i Hemisffer y Gorllewin.