Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi cynnal dau ymosodiad cemegol, gan ladd merch dair oed ac anafu tua 600 o bobol ger dinas Kirkuk yng ngogledd Irac.

Mae adroddiadau lleol yn dweud i’r ymosodiad ddigwydd yn gynnar fore heddiw yn nhre’ fechan Taza, a gafodd ei tharo gan gyfres o rocedi yn cario cemegolion.

Mae swyddogion yn dweud fod lluoedd arbennig fis diwetha’ wedi cipio pennaeth yr uned IS a oedd yn ceisio datblygu arfau cemegol yn ngogledd Irac.