Mae dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Llundain, ac mae’r heddlu’n credu fod y dyn anghywir wedi’i saethu.

Fe gafodd y dioddefwr, Oliver Tetlow, 27, ei daro nifer o weithiau gan saethwr a neidiodd allan o gar yn Harlesden, gogledd-orllewin Llundain, nos Fercher.

Mae Heddlu’r Met yn dweud fod dyn 29 oed wedi’i arestio yn hwyr nos Wener yn Shepherd’s Bush, a hynny ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae dyn 18 oed hefyd wedi’i arestio yn Harlesden ar amheuaeth o lofruddio. Mae’r ddau ddyn yn parhau i fod yn y ddalfa.

Mae ditectifs yn ymchwilio i’r posibilrwydd mai trosedd yn ymwneud a gangiau oedd hi, ond dydyn nhw ddim yn credu mai Oliver Tetlow oedd y targed bwriedig.