Mae glaw trwm wedi achosi llifogydd a chario mwd ym Mrasil gan ladd o leiaf 15 mewn ardal dlawd yn Sao Paulo.

Fe gafodd sawl tŷ ei chwalu’n deilchion, gan ladd naw yn ninas Francisco Morato a phedwar yn Maripora, lle mae wyth o bobl eraill yn parhau ar goll.

Bu i ddau foddi wrth gael eu sgubo gan lifogydd, un yn Guarulhos a’r llall yn Cajamar.

Oherwydd y glaw trwm neithiwr bu’n rhaid cau maes awyr rhyngwladol Sao Paulo.