Mae’r ddau geffyl blaen yn y ras am arlywyddiaeth America, Hillary Clinton a Donald Trump, yn gobeithio cryfhau eu gafael ar eu pleidiau y penwythnos yma.

Mae etholiadau’n cael eu cynnal mewn pum talaith i gyd, wrth i’r Gweriniaethwyr gystadlu yn nhaleithiau Maine, Kansas, Kentucky a Lousisiana heddiw, a’r Democratiaid yn Nebraska, Kansas a Lousiana heddiw a Maine yfory.

Mae’r Gweriniaethwyr bellach i lawr i bedwar dyn: Donald Trump, Ted Cruz, Marco Rubio a John Kasich.

Mae gan Donald Trump 329 o gynrychiolwyr ar hyn o bryd, o gymharu â 231 i Ted Cruz, 110 i Marco Rubio a 25 i John Kasich.

Ymysg y Democratiaid, mae gan Hillary Clinton 1,066 o gynrychiolwyr, dros ddwywaith cymaint â’i gwrthwynebydd Bernie Sanders sydd â 423.