Yr Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale (llun: PA)
Mae rhai o weinidogion y llywodraeth wedi datgan amheuon ynghylch ffigurau swyddogol am raddau’r mewnfudo i Brydain o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale, yn herio’r Prif Weinidog David Cameron i gyhoeddi ffigurau sy’n awgrymu lefelau uwch o fewnfudo.

Yn ôl ffigurau swyddogol, daeth 257,000 o fewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd i Brydain y llynedd, ond cafodd 630,000 o rifau Yswiriant Gwladol yn cyflwyno i ddinasyddion yr UE dros yr un cyfnod.

“Mae eisoes bryder mawr ar sail y ffigurau swyddogol am fewnfudo,” meddai John Whittingdale. “Mae’r awgrym eu bod nhw’n tan-fesur y graddau yn achos pryder mwy fyth.”

Dywedodd fod y nifer o fewnfudwyr sy’n dod i Brydain yn rhoi pwysau ar dai, addysg a iechyd.

“Mae yna deimlad cryf iawn mai gwlad fach yw hon ac na allwn ni barhau i gael mewnlifiad anferthol nad oes gennym unrhyw reolaeth drosto,” meddai.

Yr un oedd neges cyd-weinidog gwrth-Ewropeaidd arall, Priti Patel:

“Ar y funud, does gennym ddim rheolaeth. Mae pobl yn symud yma o wledydd newydd yr Undeb Ewropeaidd, gan roi pwysau ar ein gwasanaethau cyhoeddus.

“Rydym wedi dod yn rhy oddefgar, gan wneud dim ond eistedd yn ôl a derbyn pethau.”