Mae dyn yng ngorllewin India wedi trywanu 14 o aelodau o’i deulu ei hun i farwolaeth yng ngorllewin India.
Mae lle i gredu bod chwech o blant ymhlith y rhai a gafodd eu lladd.
Yn dilyn y digwyddiad yn ninas Thane ger Mumbai, gwnaeth Hasnain Warekar grogi ei hun.
Ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth oedd wedi’i arwain i ladd ei deulu.
Cafodd y cyrff eu darganfod yn ei gartref.