Mesur Drafft Cymru wedi dod i rym y llynedd
Mae pwyllgor o aelodau seneddol wedi galw am oedi cyn mynd ati i newid y ffordd y mae datganoli’n cael ei weithredu yng Nghymru.

Pe bai Mesur Drafft Cymru yn cael ei dderbyn, bydd gan Lywodraeth Cymru bwerau dros ynni, trafnidiaeth ac etholiadau.

Ond mae Llywodraeth Cymru ac aelodau seneddol y gwrthbleidiau’n dadlau bod rhannau o’r Mesur yn golygu y bydd gan weinidogion yng Nghymru lai o bwerau.

Mae eu barn wedi’i hategu gan y Pwyllgor Materion Cymreig, sy’n dadlau bod angen rhoi sylw i’r rhestr o bwerau nad ydyn nhw eisoes wedi cael eu datganoli i Gymru, ac mae galw ar i Whitehall egluro ymhellach pam na ddylid datganoli rhai adrannau i Gymru.

Dywedodd y pwyllgor fod y mater o geisio caniatâd gan Lundain cyn pasio rhai deddfau’n “rhy gymhleth”, ac y gellir symleiddio’r broses drwy gyflwyno terfyn o 60 diwrnod ar gyfer gwrthwynebu cynlluniau i ddatganoli pwerau i Gymru.

Ond roedd barn aelodau seneddol wedi’i hollti wrth drafod a ddylid datganoli’r llysoedd i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru’n dadlau na fyddai 14 allan o’r 19 o ddeddfau maen nhw wedi’u pasio wedi bod yn bosib o dan y drefn newydd sy’n cael ei chynnig, a rheiny’n cynnwys y drefn o dybio caniatâd ar gyfer rhoi organnau a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr.