Sicrhaodd Hillary Clinton fuddugoliaeth fawr yn yr etholiadau cychwynnol yn Ne Carolina ar gyfer ymgeisyddiaeth y Democratiaid yn etholiadau Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau.

Mae buddugoliaeth Clinton dros Bernie Sanders yn groes i’w methiant yn y dalaith wyth mlynedd yn ôl, pan fethodd hi â sicrhau cefnogaeth ei phlaid wrth sefyll yn erbyn Barack Obama.

Fe fydd etholiadau cychwynnol yn cael eu cynnal mewn sawl talaith ddydd Mawrth, ac mae Clinton mewn sefyllfa gref ar hyn o bryd wrth i’r ras boethi.

Mae Sanders wedi addo parhau i frwydro wrth baratoi ar gyfer dydd Mawrth.

Sicrhaodd Clinton 80% o’r bleidlais, gyda’r mwyafrif o fenywod a phleidleiswyr dros 30 oed yn ei chefnogi.

Mae hi eisoes wedi sicrhau cefnogaeth yn Iowa, New Hampshire a Nevada.