Arlywydd Syria Bashar Assad
Mae Arlywydd Syria, Bashar Assad, wedi dweud wrth Vladimir Putin ei fod yn barod i dderbyn cadoediad sydd wedi’i gynnig gan Rwsia a’r Unol Daleithiau.

Ond mae cynghrair o Saudi Arabia, sy’n gyfuniad o wrthryfelwyr a gwrthbleidiau, wedi mynegi pryder am amodau’r cytundeb sy’n dod i rym yr wythnos hon.

Dywedodd Salem Al Meslet ar ran y Pwyllgor Trafodaethau Uwch (HNC) fod y mudiad yn gofidio y bydd ymosodiadau dan law Assad yn parhau yn enw ymosod ar grwpiau brawychol.

Dydy’r cadoediad ddim yn cynnwys y Wladwriaeth Islamaidd, cangen Nusra Front o Al-Qaida nac unrhyw grŵp brawychol arall sydd wedi’i restru gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.

‘Dim Plan B’

Cafodd y cytundeb ei drafod ddydd Mercher gan Assad a Putin mewn sgwrs ffôn, yn ôl adroddiadau.

Mae’r ddau arweinydd wedi pwysleisio’r angen i barhau i frwydro yn erbyn brawychiaeth, ond dydyn nhw ddim wedi dweud yn gyhoeddus a oes ganddyn nhw gynllun wrth gefn rhag ofn nad yw’r cadoediad yn llwyddiannus.

Does dim sôn eto am gyflwyno sancsiynau pe bai amodau’r cadoediad yn cael eu torri.