Gorsaf bŵer Didcot yn Sir Rhydychen (llun: PA)
Mae’n “annhebygol iawn” bod tri pherson sydd ar goll ar ôl i ran o orsaf bŵer ddymchwel yn dal i fod yn fyw, meddai gwasanaethau brys.
Bu farw un person ac mae pump yn yr ysbyty ar ôl i adeilad concrit a dur ddod i lawr mewn safle gwag yn Didcot, Swydd Rhydychen ddoe.
“Rydym newydd siarad â theuluoedd [y rhai sydd ar goll], sydd yn amlwg mewn trallod,” meddai Dave Etheridge, o Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Rhydychen.
“Rydym wedi egluro iddyn nhw nad ydyn ni wedi gweld unrhyw arwyddion o fywyd ond rydym yn gwneud popeth y gallwn i ddod o hyd i’w hanwyliaid.
“Mae’n annhebygol iawn eu bod nhw’n dal i fod yn fyw.”
Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio
Gallai’r ymgyrch i ddod o hyd i’r tri sydd dal ar goll gymryd “sawl diwrnod, neu sawl wythnos,” meddai.
Mae’r pump sydd yn yr ysbyty “wedi’u hanfu’n wael”, ond dydyn nhw ddim mewn cyflwr difrifol,” meddai’r heddlu lleol.
Dywedodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fod dau ymchwilydd wedi cael eu galw i’r safle nos Fawrth a’u bod yn parhau i weithio gyda’r heddlu.